xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

57Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol neu arbed at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad h i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu a wneir oddi tani.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys (pa un ai ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.