11Ni chaniateir i berson gael ei benodi yn brif weithredwr os yw’r person—
(a)yn aelod o gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff;
(b)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(c)