4(1)Mae person wedi ei anghymwyso rhag bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol os yw’r person—
(a)yn aelod o gorff dyfarnu a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff;
(b)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.
(2)Mae person yn peidio â dal swydd cadeirydd neu aelod arferol os yw’r person hwnnw yn dod yn anghymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(c)