ATODLEN 1CYMWYSTERAU CYMRU
RHAN 1SEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU
6Y cadeirydd ac aelodau arferol
1
Mae aelodau arferol i’w penodi am dymor o hyd at dair blynedd.
2
Caniateir i berson sydd wedi dal swydd aelod arferol gael ei ailbenodi.
3
Ni chaiff telerau unrhyw ailbenodiad ganiatáu i aelod arferol ddal swydd am gyfanswm o fwy na chwe blynedd (pa un a yw’r cyfnod hwnnw yn gyfnod parhaus ai peidio).
4
Ond pan na fo person a benodwyd o’r blaen yn aelod arferol wedi dal swydd o’r fath am gyfnod yn union cyn hynny o dair blynedd neu ragor, mae cyfnod neu gyfnodau blaenorol y person hwnnw fel aelod arferol i’w diystyru at ddibenion is-baragraff (3).