ATODLEN 2TROSGLWYDDO EIDDO A STAFF I GYMWYSTERAU CYMRU
I11
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu—
a
i staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ddod yn aelodau o staff Cymwysterau Cymru, a
b
i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru gael eu trosglwyddo i Gymwysterau Cymru.
2
Mae’r pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun o dan yr Atodlen hon (“cynllun trosglwyddo”) yn cynnwys—
a
eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;
b
eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.
3
Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol, er enghraifft er mwyn—
a
creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;
b
gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
c
gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
d
gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchenogaeth eiddo neu ddefnydd ohono;
e
gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Weinidogion Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir gael eu trin fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru;
f
gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan y rheoliadau TUPE, neu sy’n debyg iddi, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddo.
I22
Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—
a
ar gyfer addasu drwy gytundeb;
b
i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol i rym.
I33
At ddibenion yr Atodlen hon—
a
mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i gael ei drin fel pe bai’n gyflogedig yn rhinwedd contract cyflogaeth, a
b
mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i gael eu hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.
I44
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “gwasanaeth sifil” (“civil service”) yw gwasanaeth sifil y Wladwriaeth;
ystyr “rheoliadau TUPE” (“TUPE regulations”) yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (OS 2006/246);
mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys rhoi les;
mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth.
I55
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo a wneir o dan yr Atodlen hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.