4(1)Caniateir i’r gydnabyddiaeth o gorff, yn ychwanegol, gael ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill (“amodau arbennig”) a bennir gan Gymwysterau Cymru, naill ai ar adeg cydnabod y corff neu wedi hynny.
(2)Caiff yr amodau arbennig gynnwys—
(a)amodau capio ffioedd;
(b)amodau trosglwyddo;
(c)amodau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir o dan y paragraff hwn gan Gymwysterau Cymru.
(3)Caiff amodau arbennig wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at—
(a)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster (gan gynnwys drwy gyfeirio at ba un a yw cymhwyster yn gymhwyster a gymeradwywyd neu’n gymhwyster sydd wedi ei ddynodi o dan adran 29 ai peidio);
(b)amgylchiadau gwahanol y dyfernir cymhwyster odanynt;
(c)disgrifiadau gwahanol o berson y dyfernir cymhwyster iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)