ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU
I1I29Y weithdrefn ar gyfer gosod amodau capio ffioedd
1
Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu gosod yr amod capio ffioedd, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.
2
Rhaid i’r hysbysiad—
a
rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,
b
datgan y dyddiad olaf y caniateir gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac
c
pennu’r dyddiad y mae’r amod, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith.
3
Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(c) fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10.