Y weithdrefn ar gyfer gosod amodau capio ffioeddLL+C
9(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu gosod yr amod capio ffioedd, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,
(b)datgan y dyddiad olaf y caniateir gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac
(c)pennu’r dyddiad y mae’r amod, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith.
(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(c) fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)