RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Cymwysterau blaenoriaethol
16Cymeradwyo cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig a ddatblygir yn unol â threfniadau adran 15
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff dyfarnu wedi datblygu ffurf ar gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig yn unol â threfniadau o dan adran 15.
2
Os cydnabyddir y corff dyfarnu mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar y cymhwyster gael ei chymeradwyo o dan yr adran hon.
3
Rhaid i Gymwysterau Cymru ystyried pa un ai i gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.
4
Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw.
5
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).
6
At ddibenion y Rhan hon, dyfarnu ffurf ar gymhwyster yng Nghymru yw ei dyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.