Deddf Cymwysterau Cymru 2015

20Meini prawf cymeradwyoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf i’w cymhwyso ganddo wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo ffurf ar gymhwyster o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol drwy gyfeirio at gymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.

(3)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r meini prawf.

(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo gyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 20 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)