RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Darpariaeth atodol sy’n berthnasol i bob cymeradwyaeth
I1I224Rheolau ynghylch ceisiadau am gymeradwyaeth
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan y Rhan hon.
2
Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
3
Caiff y rheolau wneud darpariaeth ynghylch—
a
ffurf a chynnwys ceisiadau;
b
y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).
4
Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.