RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU
Ildio cymeradwyaeth a thynnu cymeradwyaeth yn ôl
28Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thynnu cymeradwyaeth yn ôl
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion hysbysiad o dan adran 27(5).
2
Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn yr hysbysiad sydd o fewn is-adran (3).
3
Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.
4
Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—
a
rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn yr hysbysiad, a
b
mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben, at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.
5
Yn yr adran hon—
ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad at ddibenion yr adran hon;
ystyr “dyddiad tynnu’n ôl” (“withdrawal date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i gael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben.