RHAN 5DYNODI CYMWYSTERAU ERAILL

I1I230Darpariaeth bellach ynghylch dynodiadau adran 29

1

Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud dynodiad adran 29, rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’r dynodiad yn cael effaith ohono a’r dyddiad y mae’n peidio â chael effaith pan ddaw i ben.

2

Mae dynodiad adran 29 yn peidio â chael effaith—

a

os yw’r corff dyfarnu y mae’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw wedi ei dynodi mewn cysylltiad ag ef yn peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad â’r ffurf honno ar gymhwyster, ar yr un pryd ag y mae’r gydnabyddiaeth honno yn peidio â chael effaith (gweler paragraff 1(2) o Atodlen 3 am hyn);

b

os yw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw yn cael ei chymeradwyo o dan Ran 4, o ddyfodiad i rym y gymeradwyaeth fel y’i pennir o dan adran 23 (ond gweler adran 31).

3

Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo ffurf ar gymhwyster wedi ei dynodi o dan adran 29 a bod y cymhwyster yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig (gweler adran 14 am hyn).

4

Mae’r dynodiad adran 29 y cyfeirir ato yn is-adran (3) yn peidio â chael effaith o ddyfodiad i rym y gymeradwyaeth gyntaf i unrhyw ffurf ar y cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig o dan adran 16 neu 17 fel y’i pennir o dan adran 23 (ond gweler adran 31).

5

Os yw dynodiad adran 29 yn peidio â chael effaith yn unol ag is-adran (2) neu (4), rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff dyfarnu o dan sylw hysbysiad am y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith ohono.

6

Caiff Cymwysterau Cymru bennu bod dynodiad adran 29 i gael effaith at ddibenion penodol, gan gynnwys drwy gyfeirio at yr amgylchiadau y dyfernir y cymhwyster odanynt a’r person neu’r disgrifiad o berson y caniateir i’r cymhwyster gael ei ddyfarnu iddo.

7

Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi dynodiad adran 29.