RHAN 7PWERAU GORFODI CYMWYSTERAU CYMRU

I1I240Cosbau ariannol: llog

1

Mae is-adran (3) yn gymwys os nad yw cosb ariannol gyfan, neu ran ohoni, a osodir ar gorff dyfarnu o dan adran 38 wedi ei thalu ar ddiwedd y cyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad cymwys.

2

Y dyddiad cymwys yw’r diweddaraf o’r canlynol—

a

y dyddiad olaf y caniateir i daliad gael ei wneud yn unol â’r hysbysiad a roddir o dan adran 38(8);

b

y dyddiad olaf y caiff y corff dyfarnu wneud apêl o dan adran 39 mewn cysylltiad â’r gosb, os na wneir apêl o’r fath ar neu cyn y dyddiad hwnnw;

c

os gwneir apêl o dan adran 39 mewn cysylltiad â’r gosb ar neu cyn y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (b)—

i

dyddiad olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir ar yr apêl, neu

ii

os tynnir yr apêl yn ôl cyn y penderfynir arni, y diwrnod olaf o’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y tynnir yr apêl yn ôl.

3

Mae swm y gosb nad yw wedi ei dalu am y tro yn dwyn llog, sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cymwys, ar y gyfradd am y tro a bennir yn adran 17 o Ddeddf Dyfarniadau 1838 (p.110) (ac nid yw hefyd yn dwyn llog fel dyled dyfarniad o dan yr adran honno).

4

Ni chaniateir i gyfanswm y llog a osodir o dan is-adran (3) fod yn fwy na swm y gosb.

5

Nid yw llog yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan gaiff y gofyniad i dalu cosb ariannol ei atal dros dro o dan adran 39(3).