xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CPWERAU GORFODI CYMWYSTERAU CYMRU

42Adennill costau: apelauLL+C

(1)Caiff corff dyfarnu apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn—

(a)penderfyniad o dan adran 41(1) i’w gwneud yn ofynnol i’r corff dalu costau;

(b)penderfyniad o ran swm y costau hynny.

(2)Caniateir i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud ar y sail—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn y gyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol.

(3)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, mae’r gofyniad i dalu’r costau wedi ei atal dros dro hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl neu hyd nes y penderfynir arni.

(4)O ran apêl o dan yr adran hon caiff y Tribiwnlys—

(a)tynnu’n ôl y gofyniad i dalu’r costau;

(b)cadarnhau’r gofyniad hwnnw;

(c)amrywio’r gofyniad hwnnw;

(d)dychwelyd y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad i dalu’r costau, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i Gymwysterau Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 42 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)