RHAN 3CYDNABOD CYRFF DYFARNU
Meini prawf cydnabod
I1I25Dyletswydd i osod meini prawf cydnabod cyffredinol
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod cyffredinol”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol).
2
Caiff y meini prawf cydnabod cyffredinol wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu.