RHAN 8ATODOL
Is-swyddogaethau
I1I254Cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol gan Gymwysterau Cymru
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion yn is-adran (2) wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—
a
Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);
b
Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);
c
Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);
d
adran 46(1)(a) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig);
e
adran 48 (cwynion).
2
Yr egwyddorion yw—
a
y dylid cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, a
b
mai dim ond at achosion pan fo angen gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.