xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CCYFFREDINOL

56Dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”LL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymhwyster, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriadau at gymhwyster academaidd neu gymhwyster galwedigaethol a ddyfernir yng Nghymru, ac eithrio—

(a)gradd sylfaen;

(b)gradd gyntaf;

(c)gradd ar lefel uwch.

(2)Mae cymhwyster i’w ddyfarnu yng Nghymru, at ddibenion yr adran hon, os oes personau, neu y gellir disgwyl yn rhesymol bod personau, sy’n ceisio cael y cymhwyster sy’n cael, neu a fydd yn cael, neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gael, eu hasesu mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ddyfarnu cymhwyster yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dyfarnu credydau mewn cysylltiad ag elfennau cymhwyster;

(b)dyfarnu cymhwyster gan gorff naill ai ar y cyd neu gydag eraill.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ffurf ar gymhwyster yn gyfeiriadau at y fersiwn benodol o gymhwyster sy’n cael ei chynnig, neu sydd i’w chynnig, gan gorff dyfarnu penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(1)(c)