RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Cytundebau rheoli tir

I116Pŵer i ymrwymo i gytundebau rheoli tir

1

Caiff CNC wneud cytundeb â pherson sydd â buddiant mewn tir yng Nghymru ynghylch rheolaeth y tir neu ddefnydd o’r tir (“cytundeb rheoli tir”), os yw’n ymddangos iddo fod gwneud hynny yn hyrwyddo cyflawni unrhyw amcan sydd ganddo o ran arfer ei swyddogaethau.

2

Caiff cytundeb rheoli tir wneud y canlynol, ymhlith pethau eraill—

a

gosod rhwymedigaethau mewn cysylltiad â defnydd o’r tir ar y person sydd â buddiant yn y tir;

b

gosod cyfyngiadau ar arfer hawliau dros y tir ar y person sydd â buddiant yn y tir;

c

darparu i unrhyw berson neu bersonau wneud y gwaith hwnnw a allai fod yn hwylus at ddibenion y cytundeb;

d

darparu ar gyfer unrhyw fater y mae cynllun rheoli sy’n ymwneud â safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn darparu ar ei gyfer (neu y gallai ddarparu ar ei gyfer);

e

darparu i’r naill barti neu’r llall wneud taliadau i’r parti arall neu i unrhyw berson arall;

f

cynnwys darpariaeth gysylltiedig a chanlyniadol.

3

Yn yr adran hon—

  • mae “buddiant mewn tir” (“interest in land”) yn cynnwys unrhyw ystad mewn tir ac unrhyw hawl dros dir, pa un a yw’r hawl yn arferadwy yn rhinwedd perchenogaeth o fuddiant mewn tir neu yn rhinwedd trwydded neu gytundeb, ac mae’n cynnwys yn benodol hawliau helwriaeth;

  • mae i “cynllun rheoli” yr ystyr a roddir i “management scheme” gan Ran 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (gweler adran 28J);

  • mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” gan Ran 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gweler adran 52(1)).

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 16 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

I217Effaith cytundebau rheoli tir penodol ar olynwyr yn y teitl

1

Pan wneir cytundeb rheoli tir â pherson sydd â buddiant cymhwysol mewn tir sy’n ddarostyngedig i’r cytundeb ac nad yw’n dir cofrestredig, a’r cytundeb yn darparu bod darpariaethau’r is-adran hon yn cael effaith mewn perthynas â’r cytundeb—

a

caniateir i’r cytundeb gael ei gofrestru fel pridiant tir o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 (p. 61) fel pe bai’n bridiant sy’n effeithio ar dir sy’n dod o fewn paragraff (ii) o Ddosbarth D,

b

mae darpariaethau adran 4 o’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud ag effaith peidio â chofrestru) yn gymwys fel pe bai’r cytundeb yn bridiant tir o’r fath, ac

c

yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 4 o’r Ddeddf honno, mae’r cytundeb yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys i’r un graddau ag y mae’n rhwymo’r person hwnnw, er gwaethaf y ffaith na fyddai wedi rhwymo’r olynydd hwnnw oni bai am ddarpariaethau’r is-adran hon.

2

Pan wneir cytundeb rheoli tir â pherson sydd â buddiant cymwys mewn tir sy’n ddarostyngedig i’r cytundeb ac sy’n dir cofrestredig, a’r cytundeb yn darparu bod darpariaethau’r is-adran hon yn cael effaith mewn perthynas â’r cytundeb—

a

caiff y cytundeb fod yn destun hysbysiad yn y gofrestr teitlau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9) fel pe bai’n fuddiant sy’n effeithio ar y tir cofrestredig,

b

mae darpariaethau adrannau 28 i 30 o’r Ddeddf honno (effaith gwarediadau tir cofrestredig ar flaenoriaeth buddiannau gwrthwynebus) yn gymwys fel pe bai’r cytundeb yn fuddiant o’r fath; ac

c

yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adrannau hynny, mae’r cytundeb yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys i’r un graddau ag y mae’n rhwymo’r person hwnnw, er gwaethaf y ffaith na fyddai wedi rhwymo’r olynydd hwnnw oni bai am ddarpariaethau’r is-adran hon.

3

Mae gan berson fuddiant cymwys mewn tir at ddiben yr adran hon os yw’r buddiant—

a

yn ystad mewn ffi syml mewn meddiannaeth absoliwt;

b

yn dymor o flynyddoedd absoliwt a roddwyd am dymor o fwy na saith mlynedd o ddyddiad ei roi ac yn yr achos hwnnw bod rhyw ran o’r cyfnod y rhoddwyd y tymor o flynyddoedd mewn perthynas ag ef yn parhau heb ddod i ben.

4

Yn yr adran hon—

  • ystyr “olynydd” (“successor”), mewn perthynas â chytundeb â pherson sydd â buddiant cymwys mewn unrhyw dir, yw person y mae ei deitl yn deillio o’r person hwnnw sydd â buddiant cymwys, neu sy’n hawlio fel arall o dan y person hwnnw, ac eithrio yn hawl buddiant neu bridiant yr oedd buddiant y person gyda’r buddiant cymwys yn ddarostyngedig iddo yn union cyn—

    1. a

      yr adeg y gwnaed y cytundeb, pan nad yw’r tir yn dir cofrestredig, neu

    2. b

      yr adeg y cofrestrwyd yr hysbysiad am y cytundeb, pan fo’r tir yn dir cofrestredig;

  • mae i “tir cofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “registered land” yn Neddf Cofrestru Tir 2002.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 17 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

I318Cymhwyso Atodlen 2 i Ddeddf Coedwigaeth 1967 i gytundebau rheoli tir

Mae Atodlen 2 i Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) (pŵer i denant am oes ac eraill ymrwymo i gyfamodau neilltuo coedwigaeth) yn gymwys i gytundebau rheoli tir fel ag y mae’n gymwys i gyfamodau neilltuo coedwigaeth.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 18 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

I419Effaith cytundebau ar gyflwyno priffordd a rhoi hawddfraint

At ddibenion unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol o ran yr amgylchiadau pan ganiateir rhagdybio bod priffordd wedi ei chyflwyno neu hawddfraint wedi ei rhoi, neu y caniateir penderfynu hynny drwy ragnodiad, mae’r ffaith bod y cyhoedd neu unrhyw berson yn defnyddio ffordd ar draws tir yn rhinwedd cytundeb rheoli tir i gael ei diystyru.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 19 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

I520Darpariaethau trosiannol

1

Mae cytundeb sy’n ymwneud â thir yr ymrwymwyd iddo gan CNC, neu unrhyw gorff a ragflaenodd y corff hwnnw, o dan ddeddfiad a ddatgymhwysir i’w drin fel cytundeb rheoli tir.

2

Y deddfiadau a ddatgymhwysir yw—

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 20 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

I621Tir y Goron

1

Caiff yr awdurdod priodol ymrwymo i gytundeb rheoli tir mewn perthynas â buddiant yn nhir y Goron a ddelir gan y Goron neu ar ei rhan.

2

Nid yw cytundeb rheoli tir o ran unrhyw fuddiant arall yn nhir y Goron yn cael unrhyw effaith oni bai ei fod yn cael ei gymeradwyo gan yr awdurdod priodol.

3

Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant ynddo—

a

yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron,

b

yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn,

c

yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, neu

d

yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth.

4

Ystyr “yr awdurdod priodol”, mewn perthynas ag unrhyw dir—

a

os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, yw Comisiynwyr Ystad y Goron neu un o adrannau eraill y llywodraeth sy’n rheoli’r tir o dan sylw;

b

os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugiaeth;

c

os yw’r tir yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, yw’r person hwnnw y mae Dug Cernyw, neu’r person sy’n meddu ar Ddugiaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi;

d

os yw’r tir yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth, yw’r adran honno.

5

Os oes unrhyw gwestiwn yn codi o dan yr adran hon ynghylch pa awdurdod yw’r awdurdod priodol mewn perthynas ag unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i gael ei gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.