RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Dyletswyddau cyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus
I15Diben cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol Cymru
1
Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (OS 2012/1903) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle erthygl 4 rhodder—
4Diben cyffredinol
1
Rhaid i’r Corff—
a
ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru, a
b
cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,
wrth arfer ei swyddogaethau, i’r graddau y bo hynny’n gyson â’u harfer yn briodol.
2
Yn yr erthygl hon—
mae i “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“principles of sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
mae i “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
3
Yn erthygl 5—
a
yn y pennawd, ar ôl “diben” mewnosoder “cyffredinol”;
b
ym mharagraff (1), ar ôl “ddiben” mewnosoder “cyffredinol yn erthygl 4”;
c
ym mharagraff (3) yn lle “swyddogaethau” rhodder “ddiben cyffredinol yn erthygl 4”.
4
Hepgorer erthyglau 5B a 5E.
I26Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
1
Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.
2
Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ystyried cydnerthedd ecosystemau, a’r agweddau a ganlyn yn benodol—
a
amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;
b
y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;
c
graddfa ecosystemau;
d
cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);
e
gallu ecosystemau i addasu.
3
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—
a
arfer swyddogaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu
b
arfer un neu ragor o swyddogaethau barnwrol llys neu dribiwnlys.
4
Wrth gydymffurfio ag is-adran (1)—
a
rhaid i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron ac unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i Gonfensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol 1992, a
b
rhaid i unrhyw awdurdod cyhoeddus arall roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
5
Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i—
a
y rhestr a gyhoeddir o dan adran 7;
b
yr adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8;
c
unrhyw ddatganiad ardal a gyhoeddir o dan adran 11 ar gyfer ardal sy’n cynnwys ardal gyfan neu ran o ardal y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi.
F6d
yr adroddiad rheoli tir yn gynaliadwy a gyhoeddir o dan adran 6 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
6
Rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn cydymffurfio ag is-adran (1).
7
Rhaid i awdurdod cyhoeddus, cyn diwedd 2019 a chyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2019, gyhoeddi adroddiad ar yr hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio ag is-adran (1).
8
O ran awdurdod cyhoeddus sydd wedi cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6)—
a
rhaid iddo adolygu’r cynllun yng ngoleuni pob adroddiad a gyhoeddir ganddo o dan is-adran (7), a
b
caiff adolygu’r cynllun unrhyw bryd.
9
Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod cyhoeddus”(“public authority”) yw—
- a
Gweinidogion Cymru;
- b
Prif Weinidog Cymru;
- c
Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;
- d
unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron;
- e
corff cyhoeddus (gan gynnwys un neu ragor o adrannau’r llywodraeth, awdurdod F1lleol F4, cyd-bwyllgor corfforedig ac awdurdod cynllunio lleol F2...;
- f
person sy’n dal swydd—
- i
o dan y Goron,
- ii
a grëwyd neu sy’n parhau mewn bodolaeth o ganlyniad i Ddeddf gyffredinol gyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y DU, neu
- iii
y telir tâl cydnabyddiaeth mewn perthynas â hi allan o arian a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y DU;
- i
- g
ymgymerwr statudol;
- a
10
Yn is-adran (9)—
mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru;
F5ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
F3...
ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
- a
person sydd wedi ei awdurdodi gan unrhyw ddeddfiad i weithredu unrhyw ymgymeriad rheilffordd, rheilffordd ysgafn, tramffordd, cludiant ar ffyrdd, cludiant ar ddŵr, camlas, mordwyo mewndirol, doc, harbwr, pier neu oleudy neu unrhyw ymgymeriad ar gyfer cyflenwi pŵer hydrolig;
- b
gweithredydd un o rwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig (o fewn ystyr paragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21));
- c
gweithredydd maes awyr (o fewn ystyr Deddf Meysydd Awyr 1986 (p. 31)) sy’n gweithredu maes awyr y mae Rhan 5 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
- d
trawsgludwr nwy (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986 (p. 44));
- e
deiliad trwydded o dan adran 6(1) o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29);
- f
ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth;
- g
yr Awdurdod Hedfan Sifil neu ddeiliad trwydded o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), i’r graddau y bo’r person sy’n dal y drwydded yn cynnal gweithgareddau a awdurdodir ganddi;
- h
darparwr gwasanaeth cyffredinol o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p. 5).
- a
I37Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth
1
Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd, yn eu barn hwy, o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.
2
Cyn cyhoeddi rhestr o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CNC”) ynghylch yr organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd i’w cynnwys ar y rhestr.
3
Heb ragfarnu adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a
b
annog eraill i gymryd camau o’r fath.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn ymgynghoriad ag CNC—
a
adolygu’n gyson unrhyw restr a gyhoeddir ganddynt o dan yr adran hon,
b
gwneud y diwygiadau hynny i unrhyw restr o’r fath y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, ac
c
cyhoeddi unrhyw restr a ddiwygir yn y fath fodd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei diwygio.
5
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.