Cydymffurfio â chyllidebau carbon: adroddiadau a datganiadau gan Weinidogion CymruLL+C
39Cynigion a pholisïau ar gyfer cyrraedd cyllideb garbonLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn amlinellu eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.
(2)Rhaid i’r adroddiad nodi cynigion a pholisïau sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer y cyfnod cyllidebol cyntaf cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw;
(b)cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer yr ail gyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cyfnod o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)
40Cario symiau o un cyfnod cyllidebol i un arallLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cario rhan o’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol yn ôl i’r cyfnod cyllidebol blaenorol.
(2)Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach yn cael ei gostwng, a’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cynharach yn cael ei chynyddu, yn ôl y swm a gariwyd yn ôl.
(3)Ni chaiff y swm sy’n cael ei gario yn ôl fod yn fwy nag 1% o’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cario unrhyw ran o’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol nas defnyddiwyd ymlaen i’r cyfnod cyllidebol nesaf.
(5)Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach yn cael ei chynyddu, a’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cynharach yn cael ei gostwng, yn ôl y swm a gariwyd ymlaen.
(6)Mae’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod yn un “nas defnyddiwyd” i’r graddau ei bod yn fwy na chyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.
(7)Cyn penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cynghori.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 40 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)
41Datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebolLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)paratoi datganiad terfynol ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn unol â’r adran hon, a
(b)gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y cyfnod y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i ddatganiad terfynol o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
(3)Rhaid iddo—
(a)datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynnwyd ohono am y cyfnod, a
(b)rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.
(4)Rhaid iddo ddatgan swm terfynol cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.
(5)Rhaid iddo ddatgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan adran 40 er mwyn cynyddu neu ostwng y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, ac os felly rhaid iddo ddatgan y swm a gariwyd yn ôl neu ymlaen.
(6)Rhaid iddo ddatgan swm terfynol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.
(7)Penderfynir a gyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad.
(8)Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod wedi ei chyrraedd, neu nad yw ei chyrraedd.
(9)Yn benodol, rhaid iddo gynnwys asesiad Gweinidogion Cymru ynghylch i ba raddau y mae eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—
(a)wedi eu gweithredu, a
(b)wedi cyfrannu at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod (neu beidio â’i chyrraedd).
(10)Rhaid i’r asesiad ymdrin â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
(11)Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon hefyd gynnwys—
(a)amcangyfrif o gyfanswm allyriadau defnyddwyr Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a
(b)eglurhad o sut y mae Gweinidogion Cymru wedi cyfrifo’r amcangyfrif.
(12)Ystyr “allyriadau defnyddwyr Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r allyriadau o nwyon tŷ gwydr, boed hwy yng Nghymru neu yn rhywle arall, y gellir eu priodoli yn rhesymol i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn ystod y cyfnod.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 41 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)
42Cynigion a pholisïau pan nad yw cyllideb garbon wedi ei chyrraeddLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod datganiad terfynol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â chyfnod cyllidebol lle mae allyriadau net Cymru yn fwy na’r gyllideb garbon.
(2)Yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl gosod y datganiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi cynigion a pholisïau i wneud iawn am yr allyriadau sy’n fwy na’r gyllideb garbon mewn cyfnodau cyllidebol diweddarach.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 42 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)