Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Rheoliadau: gweithdrefn a chyngorLL+C

48Rheoliadau: gweithdrefnLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru os yw’n cynnwys y canlynol yn unig—

(a)rheoliadau o dan adran 44(1)(b) nad ydynt yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)rheoliadau o dan adran 52.

(3)Ni chaniateir i unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Rhan hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)

49Gofyniad i gael cyngor ynghylch cynigion i wneud rheoliadauLL+C

(1) Cyn gosod rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 48(3), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gofyn am gyngor gan y corff cynghori ynghylch y cynnig i wneud y rheoliadau, a

(b)ystyried cyngor y corff cynghori.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan y corff cynghori o dan yr adran hon, rhaid iddynt bennu cyfnod rhesymol y mae’n rhaid darparu’r cyngor oddi fewn iddo.

(3)Rhaid i’r corff cynghori ddarparu’r cyngor o fewn y cyfnod hwnnw.

(4)Rhaid i gyngor y corff cynghori nodi’r rhesymau dros y cyngor.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyngor y corff cynghori cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael.

(6)Os yw’r rheoliadau drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud darpariaeth wahanol i’r hyn a argymhellwyd gan y corff cynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol sy’n nodi’r rhesymau paham y gwnaed hynny.

(7)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau o dan adran 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 49 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)

50Cyngor ynghylch rheoliadau arfaethedig sy’n ymwneud â thargedau a chyllidebauLL+C

(1)Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 29 sy’n newid targed allyriadau 2050 neu reoliadau o dan adran 30 sy’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—

(a)a yw’r targed a gynigir gan Weinidogion Cymru y targed uchaf y gellir ei gyflawni, a

(b)os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

(2)Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 31 sy’n gosod neu’n newid cyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—

(a)lefel briodol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod;

(b)i ba raddau y dylid cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—

(i)drwy ostwng swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, neu

(ii)drwy ddefnyddio unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod yn unol â rheoliadau o dan adrannau 33 a 36;

(c)y cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod y dylai’r naill a’r llall o’r canlynol eu gwneud—

(i)y sectorau o economi Cymru y mae cynlluniau masnachu yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);

(ii)y sectorau o economi Cymru nad yw cynlluniau o’r fath yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);

(d) y sectorau o economi Cymru lle ceir cyfleoedd penodol i wneud cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

(3)Pan fo’n cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i’r materion a grybwyllir yn adran 32(3).

(4)Yn is-adran (2), mae i “cynllun masnachu” yr ystyr a roddir i “trading scheme” gan adran 44 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 50 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)