xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CNEWID YN YR HINSAWDD

Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: y prif ddyletswyddau ar Weinidogion CymruLL+C

29Targed allyriadau 2050LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf [F1100%] yn is na’r waelodlin.

(2)Gweler adran 33 am ystyr “cyfrif allyriadau net Cymru”, a gweler adran 38 am ystyr y “waelodlin”.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1) fel ei bod yn pennu canran sy’n fwy nag 80%.

(4)Yn y Rhan hon, cyfeirir at y targed yn is-adran (1) fel “targed allyriadau 2050”.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)

30Targedau allyriadau interimLL+C

(1)Ar gyfer pob blwyddyn darged interim rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, a fynegir fel canran islaw’r waelodlin (“targed allyriadau interim”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob blwyddyn darged interim yn uwch na’r targed allyriadau interim ar gyfer y flwyddyn honno.

(3)Y blynyddoedd targed interim yw 2020, 2030 a 2040.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y targedau allyriadau interim cyn diwedd 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 30 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)

31Cyllidebau carbonLL+C

(1)Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol, rhaid i Weinidogion Cymru osod drwy reoliadau gyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (“cyllideb garbon”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(3)Y cyfnodau cyllidebol yw—

(a)2016 i 2020, a

(b)pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, sy’n dod i ben â 2046 i 2050.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gosod y cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf cyn diwedd 2018, a

(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer y trydydd cyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach o leiaf bum mlynedd cyn dechrau’r cyfnod o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 31 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)

32Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorionLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gosod pob targed allyriadau interim ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, a

(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd—

(i)targed allyriadau 2050, a

(ii)y targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim neu gyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

(a)eu bod wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud y newid o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol o ran—

(i)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd, neu

(ii)cyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;

(b)bod y corff cynghori wedi argymell y newid;

(c)bod y newid yn gysylltiedig â darpariaeth a wneir o dan adran 35(1) neu 37(2).

(3)Wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)yr adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru,

(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),

(c)yr adroddiad diweddaraf (os oes un) o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (adroddiad cenedlaethau’r dyfodol),

(d)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd,

(e)technoleg sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd, ac

(f)cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys cytundebau rhyngwladol ar fesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang).

(4)Mae adrannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gael gan y corff cynghori, a’i ystyried, cyn gwneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 32 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)