RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD
Rhagarweiniad
I128Diben y Rhan hon
Diben y Rhan hon yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.
Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: y prif ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru
I229Targed allyriadau 2050
1
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf F1100% yn is na’r waelodlin.
2
Gweler adran 33 am ystyr “cyfrif allyriadau net Cymru”, a gweler adran 38 am ystyr y “waelodlin”.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1) fel ei bod yn pennu canran sy’n fwy nag 80%.
4
Yn y Rhan hon, cyfeirir at y targed yn is-adran (1) fel “targed allyriadau 2050”.
I330Targedau allyriadau interim
1
Ar gyfer pob blwyddyn darged interim rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, a fynegir fel canran islaw’r waelodlin (“targed allyriadau interim”).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob blwyddyn darged interim yn uwch na’r targed allyriadau interim ar gyfer y flwyddyn honno.
3
Y blynyddoedd targed interim yw 2020, 2030 a 2040.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru osod y targedau allyriadau interim cyn diwedd 2018.
I431Cyllidebau carbon
1
Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol, rhaid i Weinidogion Cymru osod drwy reoliadau gyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (“cyllideb garbon”).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.
3
Y cyfnodau cyllidebol yw—
a
2016 i 2020, a
b
pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, sy’n dod i ben â 2046 i 2050.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
gosod y cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf cyn diwedd 2018, a
b
gosod y gyllideb garbon ar gyfer y trydydd cyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach o leiaf bum mlynedd cyn dechrau’r cyfnod o dan sylw.
I532Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorion
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
gosod pob targed allyriadau interim ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, a
b
gosod y gyllideb garbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd—
i
targed allyriadau 2050, a
ii
y targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim neu gyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—
a
eu bod wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud y newid o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol o ran—
i
gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd, neu
ii
cyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;
b
bod y corff cynghori wedi argymell y newid;
c
bod y newid yn gysylltiedig â darpariaeth a wneir o dan adran 35(1) neu 37(2).
3
Wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
a
yr adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru,
b
yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),
c
yr adroddiad diweddaraf (os oes un) o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (adroddiad cenedlaethau’r dyfodol),
d
gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd,
e
technoleg sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd, ac
f
cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys cytundebau rhyngwladol ar fesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang).
4
Mae adrannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gael gan y corff cynghori, a’i ystyried, cyn gwneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon.
Targedau a chyllidebau: cwmpas a phrif gysyniadau
I633Cyfrif allyriadau net Cymru
1
“Cyfrif allyriadau net Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r swm a gyfrifir fel a ganlyn—
a
penderfynu swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr am y cyfnod yn unol ag adran 34;
b
tynnu swm yr unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod;
c
ychwanegu swm yr unedau carbon a ddidynnir o gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod.
2
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch y canlynol drwy reoliadau—
a
o dan ba amgylchiadau y caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod;
b
o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid didynnu unedau carbon o gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod;
c
sut y mae hynny i gael ei wneud.
3
Rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod unedau carbon sy’n cael eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod yn peidio â bod ar gael i’w gosod yn erbyn allyriadau eraill o nwy tŷ gwydr.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru osod terfyn, drwy reoliadau, ar swm net yr unedau carbon y caniateir gostwng cyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod o ganlyniad i gymhwyso is-adran (1)(b) ac (c).
5
Caiff y rheoliadau ddarparu nad yw unedau carbon o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn cyfrannu at y terfyn.
I734Allyriadau net Cymru
1
Yn y Rhan hon, ystyr “allyriadau net Cymru” o nwy tŷ gwydr am gyfnod yw swm allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw am y cyfnod, wedi ei ostwng yn ôl swm echdyniadau Cymru o’r nwy hwnnw am y cyfnod.
2
Ystyr “allyriadau Cymru” o nwy tŷ gwydr yw—
a
allyriadau o’r nwy hwnnw o ffynonellau yng Nghymru, a
b
allyriadau o’r nwy hwnnw o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol sy’n cyfrif fel allyriadau Cymru yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 35.
3
Ystyr “echdyniadau Cymru” o nwyon tŷ gwydr yw echdyniadau o’r nwy hwnnw o’r atmosffer o ganlyniad i ddefnydd tir yng Nghymru, newid mewn defnydd tir yng Nghymru neu weithgareddau coedwigaeth yng Nghymru.
4
Rhaid i symiau allyriadau Cymru ac echdyniadau Cymru o nwy tŷ gwydr ar gyfer cyfnod gael eu penderfynu yn gyson ag arferion rhyngwladol adrodd ar garbon, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
I835Allyriadau Cymru o hedfan a morgludiant rhyngwladol
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy.
2
Caiff y rheoliadau—
a
pennu gweithgareddau sydd i’w hystyried yn hedfan rhyngwladol neu’n forgludiant rhyngwladol;
b
pennu o dan ba amgylchiadau, ac i ba raddau, y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;
c
pennu o ba gyfnod (pa un a yw yn y gorffennol neu yn y dyfodol) y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;
d
gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gael eu hystyried wrth benderfynu ar allyriadau Cymru o’r nwy am y flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw;
e
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol nwyon tŷ gwydr a gwahanol gyfnodau.
I936Unedau carbon
1
Yn y Rhan hon, ystyr “uned garbon” yw uned o fath a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n cynrychioli—
a
gostyngiad mewn swm o allyriadau nwy tŷ gwydr,
b
echdyniad o swm o nwy tŷ gwydr o’r atmosffer, neu
c
swm o allyriadau nwy tŷ gwydr a ganiateir o dan gynllun neu drefniant sy’n gosod terfyn ar allyriadau o’r fath.
2
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer cynllun—
a
i gofrestru unedau carbon neu gadw cyfrif ohonynt fel arall, neu
b
i sefydlu a chynnal cyfrifon y caniateir i Weinidogion Cymru gadw unedau carbon ynddynt, a’u trosglwyddo rhyngddynt.
3
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, yn benodol, i gynllun cyfredol gael ei addasu at y dibenion hyn (gan gynnwys drwy ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r cynllun cyfredol).
4
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—
a
i benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu’r cynllun;
b
sy’n rhoi swyddogaethau i’r gweinyddwr neu’n gosod swyddogaethau arno at y diben hwnnw (gan gynnwys drwy ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gweinyddwr);
c
sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi canllawiau neu gyfarwyddydau i’r gweinyddwr;
d
sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddirprwyo’r gwaith o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru neu a osodir arnynt gan y rheoliadau;
e
i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n defnyddio’r cynllun wneud taliadau (y penderfynir eu symiau gan y rheoliadau neu oddi tanynt) tuag at y gost o’i weithredu.
I1037Nwyon tŷ gwydr
1
At ddibenion y Rhan hon, mae pob un o’r canlynol yn “nwy tŷ gwydr”—
a
carbon deuocsid;
b
methan;
c
ocsid nitraidd;
d
hydrofflworocarbonau;
e
perfflworocarbonau;
f
sylffwr hecsafflworid;
g
nitrogen trifflworid.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau er mwyn ychwanegu nwy neu ddiwygio disgrifiad o nwy.
I1138Y waelodlin
1
Yn y Rhan hon, ystyr y “waelodlin” yw swm cyfanredol allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr ar gyfer y blynyddoedd gwaelodlin.
2
Y flwyddyn waleodlin ar gyfer pob nwy tŷ gwydr yw—
a
carbon deuocsid: 1990;
b
methan: 1990;
c
ocsid nitraidd: 1990;
d
hydrofflworocarbonau: 1995;
e
perfflworocarbonau: 1995;
f
sylffwr hecsafflworid: 1995;
g
nitrogen trifflworid: 1995.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (2) drwy reoliadau er mwyn—
a
pennu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr a ychwanegir gan reoliadau o dan adran 37(2);
b
addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr.
4
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth o dan is-adran (3)(b) onid ydynt wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol yn nghyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.
Cydymffurfio â chyllidebau carbon: adroddiadau a datganiadau gan Weinidogion Cymru
I1239Cynigion a pholisïau ar gyfer cyrraedd cyllideb garbon
1
Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn amlinellu eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.
2
Rhaid i’r adroddiad nodi cynigion a pholisïau sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer y cyfnod cyllidebol cyntaf cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw;
b
cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer yr ail gyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cyfnod o dan sylw.
I1340Cario symiau o un cyfnod cyllidebol i un arall
1
Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cario rhan o’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol yn ôl i’r cyfnod cyllidebol blaenorol.
2
Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach yn cael ei gostwng, a’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cynharach yn cael ei chynyddu, yn ôl y swm a gariwyd yn ôl.
3
Ni chaiff y swm sy’n cael ei gario yn ôl fod yn fwy nag 1% o’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach.
4
Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cario unrhyw ran o’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol nas defnyddiwyd ymlaen i’r cyfnod cyllidebol nesaf.
5
Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach yn cael ei chynyddu, a’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cynharach yn cael ei gostwng, yn ôl y swm a gariwyd ymlaen.
6
Mae’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod yn un “nas defnyddiwyd” i’r graddau ei bod yn fwy na chyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.
7
Cyn penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cynghori.
I1441Datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
paratoi datganiad terfynol ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn unol â’r adran hon, a
b
gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y cyfnod y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
2
Rhaid i ddatganiad terfynol o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
3
Rhaid iddo—
a
datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynnwyd ohono am y cyfnod, a
b
rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.
4
Rhaid iddo ddatgan swm terfynol cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.
5
Rhaid iddo ddatgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan adran 40 er mwyn cynyddu neu ostwng y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, ac os felly rhaid iddo ddatgan y swm a gariwyd yn ôl neu ymlaen.
6
Rhaid iddo ddatgan swm terfynol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.
7
Penderfynir a gyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad.
8
Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod wedi ei chyrraedd, neu nad yw ei chyrraedd.
9
Yn benodol, rhaid iddo gynnwys asesiad Gweinidogion Cymru ynghylch i ba raddau y mae eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—
a
wedi eu gweithredu, a
b
wedi cyfrannu at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod (neu beidio â’i chyrraedd).
10
Rhaid i’r asesiad ymdrin â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
11
Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon hefyd gynnwys—
a
amcangyfrif o gyfanswm allyriadau defnyddwyr Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a
b
eglurhad o sut y mae Gweinidogion Cymru wedi cyfrifo’r amcangyfrif.
12
Ystyr “allyriadau defnyddwyr Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r allyriadau o nwyon tŷ gwydr, boed hwy yng Nghymru neu yn rhywle arall, y gellir eu priodoli yn rhesymol i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn ystod y cyfnod.
I1542Cynigion a pholisïau pan nad yw cyllideb garbon wedi ei chyrraedd
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod datganiad terfynol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â chyfnod cyllidebol lle mae allyriadau net Cymru yn fwy na’r gyllideb garbon.
2
Yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl gosod y datganiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi cynigion a pholisïau i wneud iawn am yr allyriadau sy’n fwy na’r gyllideb garbon mewn cyfnodau cyllidebol diweddarach.
Cydymffurfio â thargedau allyriadau: datganiadau gan Weinidogion Cymru
I1643Datganiadau ar gyfer blynyddoedd targed interim a 2050
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
paratoi datganiad ar gyfer pob blwyddyn darged interim ac ar gyfer y flwyddyn 2050 yn unol â’r adran hon, a
b
gosod pob datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi.
2
Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi.
3
Rhaid iddo—
a
datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynwyd ohono am y flwyddyn, a
b
rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.
4
Rhaid iddo ddatgan swm cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn.
5
Penderfynir a gyrhaeddwyd targed allyriadau interim neu darged allyriadau 2050 drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad ar gyfer y flwyddyn y mae’r targed yn ymwneud â hi.
6
Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y targed wedi ei gyrraedd, neu nad yw ei gyrraedd.
7
Caniateir i ddatganiad o dan yr adran hon ar gyfer blwyddyn gael ei gyfuno â’r datganiad o dan adran 41 ar gyfer y cyfnod cyllidebol sy’n cynnwys y flwyddyn honno.
Swyddogaethau corff cynghori: adroddiadau a chyngor
I1744Corff cynghori
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
a
sefydlu corff corfforaethol i arfer swyddogaethau’r corff cynghori o dan y rhan hon, neu
b
dynodi person i fod yn gorff cynghori at ddibenion y Rhan hon.
2
Ni chaiff y rheoliadau ddynodi person onid yw’r person yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
3
Os nad oes rheoliadau o dan is-adran (1) mewn grym, y corff cynghori yw’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a sefydlwyd o dan adran 32 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).
4
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
statws ac aelodaeth y corff a sefydlir gan y rheoliadau;
b
cyflogi staff gan y corff;
c
tâl, lwfansau a phensiynau ar gyfer aelodau a staff;
d
trefniadaeth a gweithdrefn y corff;
e
adroddiadau a chyfrifon (gan gynnwys archwilio).
5
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) alluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i’r corff mewn perthynas â’r materion a grybwyllir yn is-adran (4).
6
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol neu arbed, a all gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
I1845Adroddiadau cynnydd
1
Cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd—
i
y cyllidebau carbon sydd wedi eu gosod o dan y Rhan hon,
ii
y targedau allyriadau interim, a
iii
targed allyriadau 2050,
b
a yw’r cyllidebau a’r targedau hynny yn debygol o gael eu cyrraedd, ac
c
unrhyw fesurau pellach sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y cyllidebau a’r targedau hynny.
2
Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod,
b
y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr yn ystod y cyfnod, a
c
y materion a nodir yn is-adran (1).
3
Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2030 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
a yw’r targed allyriadau interim ar gyfer 2040 a tharged allyriadau 2050 y targedau uchaf y gellir eu cyflawni, a
b
os nad y targed uchaf y gellir ei gyflawni yw’r naill neu’r llall ohonynt, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
4
Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2040 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
a
a yw targed allyriadau 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni,
b
os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
5
Caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2).
6
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad a dderbynnir ganddynt o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru osod ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cael yr adroddiad.
I1946Dyletswydd ar y corff cynghori i ddarparu cyngor a chymorth
Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r corff cynghori roi i Weinidogion Cymru y cyngor, y dadansoddiad, yr wybodaeth neu’r cymorth arall sy’n berthnasol i—
a
arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu
b
unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.
I2047Canllawiau i’r corff cynghori
1
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i’r corff cynghori ynghylch cynnwys unrhyw gyngor neu adroddiad.
Rheoliadau: gweithdrefn a chyngor
I2148Rheoliadau: gweithdrefn
1
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru os yw’n cynnwys y canlynol yn unig—
a
rheoliadau o dan adran 44(1)(b) nad ydynt yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
b
rheoliadau o dan adran 52.
3
Ni chaniateir i unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Rhan hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
I2249Gofyniad i gael cyngor ynghylch cynigion i wneud rheoliadau
1
Cyn gosod rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 48(3), rhaid i Weinidogion Cymru—
a
gofyn am gyngor gan y corff cynghori ynghylch y cynnig i wneud y rheoliadau, a
b
ystyried cyngor y corff cynghori.
2
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan y corff cynghori o dan yr adran hon, rhaid iddynt bennu cyfnod rhesymol y mae’n rhaid darparu’r cyngor oddi fewn iddo.
3
Rhaid i’r corff cynghori ddarparu’r cyngor o fewn y cyfnod hwnnw.
4
Rhaid i gyngor y corff cynghori nodi’r rhesymau dros y cyngor.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyngor y corff cynghori cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael.
6
Os yw’r rheoliadau drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud darpariaeth wahanol i’r hyn a argymhellwyd gan y corff cynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol sy’n nodi’r rhesymau paham y gwnaed hynny.
7
Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau o dan adran 44.
I2350Cyngor ynghylch rheoliadau arfaethedig sy’n ymwneud â thargedau a chyllidebau
1
Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 29 sy’n newid targed allyriadau 2050 neu reoliadau o dan adran 30 sy’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—
a
a yw’r targed a gynigir gan Weinidogion Cymru y targed uchaf y gellir ei gyflawni, a
b
os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
2
Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 31 sy’n gosod neu’n newid cyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—
a
lefel briodol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod;
b
i ba raddau y dylid cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—
i
drwy ostwng swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, neu
ii
drwy ddefnyddio unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod yn unol â rheoliadau o dan adrannau 33 a 36;
c
y cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod y dylai’r naill a’r llall o’r canlynol eu gwneud—
i
y sectorau o economi Cymru y mae cynlluniau masnachu yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);
ii
y sectorau o economi Cymru nad yw cynlluniau o’r fath yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);
d
y sectorau o economi Cymru lle ceir cyfleoedd penodol i wneud cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
3
Pan fo’n cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i’r materion a grybwyllir yn adran 32(3).
4
Yn is-adran (2), mae i “cynllun masnachu” yr ystyr a roddir i “trading scheme” gan adran 44 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).
Mesur a dehongli
I2451Mesur allyriadau
1
At ddibenion y Rhan hon, rhaid mesur neu gyfrifo pob un o’r canlynol mewn symiau cyfwerth â thunnell o garbon deuocsid—
a
allyriadau nwyon tŷ gwydr;
b
gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr;
c
echdyniadau nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
2
Ystyr “swm cyfwerth â thunnell o garbon deuocsid” yw un dunnell fetrig o garbon deuocsid neu swm o unrhyw nwy tŷ gwydr arall sydd â photensial cyfwerth o ran cynhesu byd-eang (a gyfrifir yn gyson ag arferion rhyngwladol adrodd ar garbon).
I2552Arferion rhyngwladol adrodd ar garbon
Yn y Rhan hon, ystyr “arferion rhyngwladol adrodd ar garbon” yw’r arferion cyffredin mewn perthynas ag adrodd at ddibenion—
a
protocolau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, neu
b
y cytundebau neu’r trefniadau rhyngwladol eraill hynny, neu’r ymrwymiadau hynny o dan gyfreithiau’r UE, y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy reoliadau.
I2653Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon
Yn y Rhan hon—
ystyr “allyriadau” (“emissions”) mewn perthynas â nwy tŷ gwydr, yw allyriadau o’r nwy hwnnw i’r atmosffer sydd i’w priodoli i weithgarwch pobl;
mae i “allyriadau Cymru” (“Welsh emissions”) yr ystyr a roddir gan adran 34(2);
mae i “allyriadau net Cymru” (“net Welsh emissions”) yr ystyr a roddir gan adran 34(1);
mae i “arferion rhyngwladol adrodd ar garbon” (“international carbon reporting practice”) yr ystyr a roddir gan adran 52;
mae i “blwyddyn darged interim” (“interim target year”) yr ystyr a roddir gan adran 30(3);
mae “corff cynghori” (“advisory body”) i’w ddehongli yn unol ag adran 44;
mae i “cyfnod cyllidebol” (“budgetary period”) yr ystyr a roddir gan adran 31(3);
ystyr “cyfreithiau’r UE” (“EU law”) yw—
- a
yr holl hawliau, pwerau, rhwymedigaethau, ymrwymiadau a chyfyngiadau a grëir gan Gytuniadau’r UE neu sy’n codi oddi tanynt o dro i dro, a
- b
yr holl rwymedïau a gweithdrefnau y darperir ar eu cyfer gan Gytuniadau’r UE neu oddi tanynt o dro i dro;
- a
mae i “cyfrif allyriadau net Cymru” (“net Welsh emissions account”) yr ystyr a roddir gan adran 33;
mae i “cyllideb garbon“ (“carbon budget”) yr ystyr a roddir gan adran 31(1);
mae i “echdyniadau Cymru” (“Welsh removals”) yr ystyr a roddir gan adran 34(3);
mae i “gwaelodlin” (“baseline”) yr ystyr a roddir gan adran 38;
mae i “nwy tŷ gwydr” (“greenhouse gas”) yr ystyr a roddir gan adran 37;
mae i “targed allyriadau 2050” (“2050 emissions target”) yr ystyr a roddir gan adran 29;
mae i “targed allyriadau interim” (“interim emissions target”) yr ystyr a roddir gan adran 30(1);
mae i “uned garbon” (“carbon unit”) yr ystyr a roddir gan adran 36(1).