RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa

I154Ystyr “bag siopa”

Yn y Rhan hon, ystyr “bag siopa” yw bag a ddarperir at y diben o—

a

galluogi nwyddau i gael eu cymryd ymaith o’r man lle cânt eu gwerthu, neu

b

galluogi nwyddau i gael eu danfon.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I255Gofyniad i godi tâl

1

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon (“rheoliadau bagiau siopa”).

2

Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau godi tâl am gyflenwi bagiau siopa o’r disgrifiadau a bennir yn y rheoliadau o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3).

3

Yr amgylchiadau yw bod y nwyddau—

a

yn cael eu gwerthu mewn man neu o fan yng Nghymru, neu

b

wedi eu bwriadu ar gyfer eu danfon i berson yng Nghymru.

4

Caiff y rheoliadau bennu disgrifiad o fag siopa drwy gyfeirio at y canlynol (er enghraifft)⁠—

a

maint, trwch, gwneuthuriad, cyfansoddiad neu nodweddion eraill y bag,

b

y defnydd y bwriedir ei wneud o’r bag,

c

y pris a godir gan y gwerthwr nwyddau am gyflenwi’r bag (ac eithrio unrhyw dâl sy’n ofynnol gan y rheoliadau),

neu unrhyw gyfuniad o’r ffactorau hynny.

5

Caiff y rheoliadau—

a

pennu isafswm y tâl y mae’n rhaid ei godi am fag siopa, neu

b

darparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

6

Yn y Rhan hon, ystyr “y tâl” yw unrhyw dâl am gyflenwi bagiau siopa a wneir yn unol â rheoliadau bagiau siopa.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I356Gwerthwyr nwyddau

1

Yn y Rhan hon, ystyr “gwerthwr nwyddau” yw person sy’n gwerthu nwyddau yng nghwrs busnes.

2

At ddibenion is-adran (1), mae person yn gweithredu yng nghwrs busnes os yw’r person⁠—

a

yn gweithredu unrhyw fusnes neu ymgymeriad, pa un a yw hynny ar gyfer elw ai peidio, neu

b

yn arfer unrhyw swyddogaethau o natur gyhoeddus.

3

Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau bagiau siopa ynghylch personau sydd i’w hystyried, neu nad ydynt i’w hystyried, yn werthwyr mewn perthynas â nwyddau.

4

Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i’r canlynol—

a

pob gwerthwr nwyddau,

b

gwerthwyr nwyddau penodedig,

c

gwerthwyr nwyddau o ddisgrifiad penodedig, neu

d

gwerthwyr o fewn paragraff (b) a gwerthwyr o fewn paragraff (c).

5

Caiff y rheoliadau bennu disgrifiad o werthwr drwy gyfeirio at—

a

y man y mae gwerthwr yn cyflenwi nwyddau ynddo neu ohono neu’r mannau y mae gwerthwr yn cyflenwi nwyddau ynddynt neu ohonynt;

b

y math o nwyddau a gyflenwir gan werthwr;

c

gwerth y nwyddau a gyflenwir gan werthwr;

d

trosiant gwerthwr neu unrhyw ran o’r trosiant;

e

trefniadau gwerthwr ar gyfer cymhwyso’r enillion net o’r tâl (gweler adran 57);

f

unrhyw ffactor arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, pa un a yw’r ffactor hwnnw o’r un math â’r rhai a restrir ym mharagraffau (a) i (e) ai peidio.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I457Cymhwyso’r enillion

1

Rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i’r enillion net o’r tâl gael eu cymhwyso at ddibenion elusennol sydd—

a

yn ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd, a

b

o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni (pa un a ydynt o fudd hefyd i unrhyw ardal arall ai peidio).

2

Ond rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer eithriad sy’n galluogi gwerthwr nwyddau i gymhwyso’r enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol eraill pan fo’r gwerthwr—

a

o fewn cyfnod penodedig cyn i’r ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ddod i rym am y tro cyntaf, wedi cymhwyso symiau a dderbyniwyd ar ffurf taliadau am fagiau siopa at y dibenion hynny, a

b

wedi rhoi hysbysiad ei fod wedi cymhwyso symiau at y dibenion hynny fel y crybwyllir ym mharagraff (a) ac am ddymuniad y gwerthwr i allu cymhwyso’r holl enillion net o’r tâl, neu ran ohonynt, at y dibenion hynny.

3

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

a

ynghylch sut, pa bryd ac i bwy y mae’n rhaid rhoi hysbysiad;

b

ynghylch gwybodaeth y mae’n rhaid ei darparu wrth roi hysbysiad;

c

i’r eithriad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau.

4

Caiff y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i werthwr nwyddau gymhwyso’r enillion net o’r tâl—

a

at y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt, neu

b

pan fo’r rheoliadau’n pennu un diben elusennol neu ragor, at y dibenion penodedig hynny neu at y rhai hynny o’u plith y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt.

5

Caiff rheoliadau bagiau siopa (ymhlith pethau eraill)—

a

darparu bod yr enillion net o’r tâl i’w trin fel petaent wedi eu cymhwyso yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon os cânt eu derbyn gan bersonau penodedig neu bersonau o ddisgrifiad penodedig (neu’r ddau);

b

gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i’r enillion net o’r tâl gael eu rhoi gan werthwyr i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu i unrhyw berson arall;

c

ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n derbyn unrhyw enillion net o’r tâl gymhwyso’r enillion at ddibenion elusennol yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) neu (2).

6

Caiff y rheoliadau—

a

darparu i Weinidogion Cymru adennill symiau sy’n gyfwerth â’r enillion o’r tâl a dderbyniwyd neu a gymhwyswyd heb fod yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon;

b

darparu ar gyfer cymhwyso symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru at ddibenion elusennol o fewn is-adran (1) (gan gynnwys y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt);

c

darparu nad yw symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru.

7

Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i bersonau ar wahân i werthwyr nwyddau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod darpariaeth o’r fath yn briodol er mwyn gorfodi darpariaeth a wneir o dan yr adran hon neu ar gyfer gwneud darpariaeth o’r fath yn effeithiol fel arall.

8

Yn y Rhan hon, mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno); ond caiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu i’r diffiniad fod y gymwys at ddibenion y Rhan hon gyda’r addasiadau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn sicrhau bod yr enillion net o’r tâl yn cael eu cymhwyso’n briodol.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Gweinyddu a gorfodi

I558Gweinyddu

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

2

Caniateir penodi mwy nag un person i fod yn weinyddwr.

3

Caiff y rheoliadau roi pwerau i weinyddwr, neu osod dyletswyddau arno.

4

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth—

a

sy’n gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r gweinyddwr, neu

b

i unrhyw ddeddfiad o’r fath fod yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, at ddibenion y rheoliadau.

5

Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at weinyddwr yn cynnwys person a benodir gan weinyddwr.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I659Cadw a chyhoeddi cofnodion

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw mewn perthynas â thaliadau a godir gan werthwyr nwyddau am fagiau siopa (pa un a yw’r taliadau’n ofynnol o dan y rheoliadau ai peidio).

2

Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol—

a

i’r cofnodion gael eu cyhoeddi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyhoeddi, ar yr adegau hynny y gellir eu pennu ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu;

b

i’r cofnodion gael eu cyflenwi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyflenwi, ar gais ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu—

i

i Weinidogion Cymru,

ii

i weinyddwr, neu

iii

i aelodau o’r cyhoedd.

3

Caiff y rheoliadau (er enghraifft) ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

y swm a dderbynnir gan werthwr nwyddau ar ffurf taliadau am fagiau siopa (pa un a yw hynny’n unol â’r rheoliadau neu fel arall);

b

enillion gros neu net y gwerthwr o’r tâl;

c

at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net o’r tâl.

4

Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol hefyd gyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r swm y mae person wedi ei dderbyn gan werthwr ar ffurf enillion net o’r tâl sydd i’w gymhwyso at ddibenion elusennol.

Annotations:
Commencement Information
I6

A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I760Gorfodi

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi pwerau neu ddyletswyddau i weinyddwr neu osod pwerau neu ddyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

2

Caiff y rheoliadau (er enghraifft) roi pwerau i weinyddwr—

a

i’w gwneud yn ofynnol dangos dogfennau neu ddarparu gwybodaeth, neu

b

i holi gwerthwr nwyddau neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr.

3

Caiff y rheoliadau hefyd roi pwerau i weinyddwr holi person y mae’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol ei fod wedi derbyn unrhyw enillion net o’r tâl neu swyddogion neu gyflogeion person o’r fath.

4

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n rhoi pŵer o fewn is-adran (2) gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau nad yw’r pŵer yn cael ei arfer gan weinyddwr ond pan fo’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I861Sancsiynau sifil

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil.

Annotations:
Commencement Information
I8

A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cyffredinol

I962Rheoliadau o dan y Rhan hon

1

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau bagiau siopa i’w arfer drwy offeryn statudol.

2

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau bagiau siopa yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer dibenion neu achosion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

3

Caiff darpariaeth o dan is-adran (2)(b) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad.

4

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau bagiau siopa gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Annotations:
Commencement Information
I9

A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1063Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

  • mae i “bag siopa” (“carrier bag”) yr ystyr a roddir gan adran 54;

  • mae “diben elusennol” (“charitable purpose”) i’w ddehongli yn unol ag adran 57(8);

  • ystyr “enillion gros o’r tâl” (“gross proceeds of the charge”) yw’r swm a dderbynnir gan werthwr nwyddau ar ffurf tâl;

  • ystyr “enillion net o’r tâl” (“net proceeds of the charge”) yw enillion gros gwerthwr o’r tâl wedi eu gostwng yn ôl y symiau hynny y caniateir eu pennu;

  • mae “gwerthwr nwyddau” (“seller of goods”) i’w ddehongli yn unol ag adran 56;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau bagiau siopa;

  • mae i “rheoliadau bagiau siopa” (“carrier bag regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 55;

  • mae i “y tâl” (“the charge”) yr ystyr a roddir gan adran 55.

Annotations:
Commencement Information
I10

A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1164Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau sy’n ymwneud â’r Rhan hon.