RHAN 4CASGLU A GWAREDU GWASTRAFF

Cyffredinol

I169Rheoliadau

1

Mae adran 161 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddydau) wedi ei diwygio yn unol ag is-adrannau (2) i (4).

2

Yn is-adran (1), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”.

3

Yn is-adran (2A), yn lle “made solely by the National Assembly for Wales” rhodder “containing regulations made solely by the Welsh Ministers”.

4

Ar ôl is-adran (2A) mewnosoder—

2AA

A statutory instrument containing regulations under section 34D or 45AA(10) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.

2AB

Any other statutory instrument containing regulations made by the Welsh Ministers under this Act is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

I35

Yn adran 20(3) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (gorchmynion a rheoliadau y mae’n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymeradwyo), ar ôl “9,” mewnosoder “9A”.

I2I470Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Rhan 3 o Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau sy’n ymwneud â’r Rhan hon.