xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCASGLU A GWAREDU GWASTRAFF

GorfodiLL+C

68Sancsiynau sifilLL+C

(1)At ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) (“RESA 2008”), mae’r tramgwyddau o dan adrannau 34D a 45AA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’u mewnosodir gan adrannau 65 a 66) i’w trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn y Ddeddf honno yn union cyn y diwrnod y cafodd RESA 2008 ei phasio.

(2)Mae adran 10 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(3)Yn y teitl, yn lle “gollwng gwastraff ar safle tirlenwi” rhodder “thramgwyddau a grëir gan reoliadau o dan adrannau 9 a 9A”.

(4)Yn is-adran (1), ar ôl “9(1)” mewnosoder “neu 9A(1)”.

(5)Yn is-adran (2), yn lle “Caiff rheoliadau o dan adran 9(1)” rhodder “Caniateir arfer y pŵer i”.

(6)Yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Ond nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys i’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn rhinwedd is-adran (2).

(7)Yn is-adran (4), yn lle “i ddarpariaeth a wneir o dan reoliadau o dan is-adran (2), neu yn rhinwedd y rheoliadau hynny, fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir” rhodder “pan fo rheoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn gwneud darpariaeth yn rhinwedd is-adran (2) fel y maent yn gymwys pan wneir darpariaeth”.

(8)Yn is-adran (6), ar ôl “9(1)” mewnosoder “neu 9A(1) (fel y bo’n briodol)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I2A. 68 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)