ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
I110Apelau
1
Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu ar gyfer gwneud apêl ac eithrio i’r canlynol—
a
y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu
b
tribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad.
2
Yn is-baragraff (1)(b), nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.
3
Os yw’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyno unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—
a
darpariaeth sy’n atal dros dro y gofyniad neu’r hysbysiad tra disgwylir dyfarniad yr apêl;
b
darpariaeth ynghylch pwerau’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo;
c
darpariaeth ynghylch sut y mae unrhyw swm sy’n daladwy yn unol â phenderfyniad y tribiwnlys hwnnw i gael ei adennill.
4
Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi i’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo y pŵer i wneud y canlynol—
a
tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;
b
cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;
c
cymryd y camau hynny y gallai’r gweinyddwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anwaith a roes fod i’r gofyniad neu’r hysbysiad;
d
dychwelyd y penderfyniad ai cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y gweinyddwr;
e
dyfarnu costau.