ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
I113Canllawiau ynghylch defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil ac adennill costau
1
Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau—
a
bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch defnydd y gweinyddwr o’r sancsiwn sifil,
b
bod rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,
c
bod rhaid i’r gweinyddwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol,
d
bod rhaid i’r gweinyddwr ymgynghori â’r personau hynny y caiff y rheoliadau eu pennu cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig, ac
e
bod rhaid i’r gweinyddwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer swyddogaethau’r gweinyddwr.
2
Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—
a
o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
b
o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod,
c
swm y gosb,
d
sut y gall atebolrwydd am y gosb gael ei ryddhau ac effaith rhyddhad, ac
e
hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.
3
Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—
a
o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod,
b
o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod,
c
yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r gweinyddwr yn debygol o’u hystyried wrth ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio), a
d
hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.
4
Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 9, rhaid iddynt sicrhau ei bod yn ofynnol i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd y gweinyddwr yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.