Rhagolygol

ATODLEN 1LL+CCODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

Canllawiau ynghylch defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil ac adennill costauLL+C

13(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau—

(a)bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch defnydd y gweinyddwr o’r sancsiwn sifil,

(b)bod rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,

(c)bod rhaid i’r gweinyddwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol,

(d)bod rhaid i’r gweinyddwr ymgynghori â’r personau hynny y caiff y rheoliadau eu pennu cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig, ac

(e)bod rhaid i’r gweinyddwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer swyddogaethau’r gweinyddwr.

(2)Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod,

(c)swm y gosb,

(d)sut y gall atebolrwydd am y gosb gael ei ryddhau ac effaith rhyddhad, ac

(e)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

(3)Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod,

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod,

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r gweinyddwr yn debygol o’u hystyried wrth ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio), a

(d)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

(4)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 9, rhaid iddynt sicrhau ei bod yn ofynnol i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd y gweinyddwr yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.