ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
I13Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefn
1
Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—
a
pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),
b
bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i’r person ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae’n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu’n gyfwerth ag ef),
c
os nad yw’r person yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd—
i
y caiff y person wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod, a
ii
ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig ai peidio,
d
pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy’n ei gosod (“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac
e
y caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gosod.
2
Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—
a
y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,
b
effaith talu’r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),
c
yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,
d
o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig,
e
o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i’r gosb ariannol benodedig, ac
f
o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.
3
Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c)(ii) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan all y gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb ariannol benodedig.
4
Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—
a
y seiliau dros osod y gosb,
b
sut y gellir talu,
c
o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu,
d
unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,
e
hawliau i apelio, ac
f
canlyniadau peidio â thalu.
5
Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—
a
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
c
bod y penderfyniad yn un afresymol.