xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
3(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—
(a)pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),
(b)bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i’r person ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae’n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu’n gyfwerth ag ef),
(c)os nad yw’r person yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd—
(i)y caiff y person wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod, a
(ii)ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig ai peidio,
(d)pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy’n ei gosod (“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac
(e)y caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gosod.
(2)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,
(b)effaith talu’r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),
(c)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,
(d)o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig,
(e)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i’r gosb ariannol benodedig, ac
(f)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.
(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c)(ii) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan all y gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb ariannol benodedig.
(4)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau dros osod y gosb,
(b)sut y gellir talu,
(c)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu,
(d)unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,
(e)hawliau i apelio, ac
(f)canlyniadau peidio â thalu.
(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn un afresymol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)