ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU, DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU
RHAN 2CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA
I112Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27)
1
Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 77, hepgorer y canlynol—
a
is-adran (3)(b);
b
is-adran (4)(aa).
3
Yn adran 98, hepgorer yr eitemau ar gyfer “children”, “nuisance”, “pollution” ac “young people”.
4
Yn Atodlen 6—
a
hepgorer paragraffau 4A a 4B;
b
hepgorer paragraff 7(3A);
c
hepgorer paragraff 8(2A);
d
hepgorer paragraff 24(6)(b);
e
hepgorer paragraff 25(5)(b);
f
hepgorer paragraff 26(2)(a);
g
hepgorer paragraff 27(5);
h
yn y croesbennawd italig cyn paragraff 28, yn lle “two or more” rhodder “both”;
i
ym mharagraff 28(1)—
i
hepgorer “any two or more of”;
ii
hepgorer paragraff (b) (ond nid yr “and” sy’n ei ddilyn).