xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CMÂN DDIWYGIADAU, DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

RHAN 3LL+CCASGLU A GWAREDU GWASTRAFF

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)LL+C

17(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle’r croesbennawd italig cyn adran 9 rhodder—

Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi.

(3)Yn adran 11—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “9” mewnosoder “neu 9A”;

(b)hepgorer is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I2Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)