xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CMÂN DDIWYGIADAU, DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

RHAN 3LL+CCASGLU A GWAREDU GWASTRAFF

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43)LL+C

14(1)Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhennawd adran 45A, yn lle “Arrangements” rhodder “England: arrangements”.

(3)Hepgorer adran 45B.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I2Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)

Deddf Ailgylchu Gwastraff Cartrefi 2003 (p. 29)LL+C

15Yn Neddf Ailgylchu Gwastraff Cartrefi 2003, hepgorer adran 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I4Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

16Yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ym mharagraff 35(3), yn Nhabl 1, hepgorer yr eitem sy’n ymwneud ag adran 45B(1) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I6Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)LL+C

17(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle’r croesbennawd italig cyn adran 9 rhodder—

Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi.

(3)Yn adran 11—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “9” mewnosoder “neu 9A”;

(b)hepgorer is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I8Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)