RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd
I110Ystyr corff cyhoeddus yn adrannau 11 i 15
1
Yn adrannau 11 i 15, ystyr “corff cyhoeddus” yw unrhyw un o’r canlynol—
a
cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
b
Bwrdd Iechyd Lleol;
c
yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
i
Iechyd Cyhoeddus Cymru;
ii
Felindre;
d
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
e
awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
f
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
g
Cyngor Celfyddydau Cymru;
h
Cyngor Chwaraeon Cymru;
i
Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
j
Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau drwy—
a
ychwanegu person,
b
tynnu person ymaith, neu
c
diwygio disgrifiad o berson.
3
Ond ni chaiff y rheoliadau—
a
ond diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus;
b
ond diwygio’r is-adran honno drwy ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.
4
Os yw’r rheoliadau’n diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw adrannau 11 i 15 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â swyddogaethau’r person hwnnw sydd o natur gyhoeddus.
5
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
a
CNC,
b
pob person y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ychwanegu neu ei dynnu ymaith drwy’r rheoliadau, ac
c
y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.