RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd
I111Datganiadau ardal
1
Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi datganiadau (“datganiadau ardal”) ar gyfer yr ardaloedd o Gymru y mae CNC yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben hwyluso gweithrediad y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.
2
Caiff CNC ddefnyddio’r datganiadau ardal at unrhyw ddiben arall wrth arfer ei swyddogaethau.
3
Rhaid i bob datganiad ardal—
a
egluro pam y paratowyd datganiad ar gyfer yr ardal, drwy gyfeirio at—
i
yr adnoddau naturiol yn yr ardal,
ii
y manteision y mae’r adnoddau naturiol yn eu cynnig, a
iii
y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol y mae angen ymdrin â hwy;
b
egluro sut y mae egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wedi eu cymhwyso wrth baratoi’r datganiad;
c
datgan sut y mae CNC yn bwriadu ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd, a sut y mae’n bwriadu cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth wneud hynny;
d
pennu’r cyrff cyhoeddus y mae CNC yn ystyried y gallant gynorthwyo i ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd.
4
Rhaid i CNC sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei chynnwys yn o leiaf un o’r ardaloedd y mae’n paratoi datganiad ardal ar eu cyfer.
5
Rhaid i CNC—
a
cymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu datganiad ardal, a
b
annog eraill i gymryd camau o’r fath.
6
Rhaid i CNC adolygu datganiadau ardal yn gyson a chaiff eu diwygio ar unrhyw adeg.
7
Cyn cyhoeddi datganiad ardal, rhaid i CNC ystyried a ddylid—
a
ymgorffori cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall yn y datganiad ardal, neu
b
ymgorffori’r datganiad ardal mewn cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall.