RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD

Swyddogaethau corff cynghori: adroddiadau a chyngor

I145Adroddiadau cynnydd

1

Cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—

a

y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd—

i

y cyllidebau carbon sydd wedi eu gosod o dan y Rhan hon,

ii

y targedau allyriadau interim, a

iii

targed allyriadau 2050,

b

a yw’r cyllidebau a’r targedau hynny yn debygol o gael eu cyrraedd, ac

c

unrhyw fesurau pellach sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y cyllidebau a’r targedau hynny.

2

Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—

a

y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod,

b

y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr yn ystod y cyfnod, a

c

y materion a nodir yn is-adran (1).

3

Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2030 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch⁠—

a

a yw’r targed allyriadau interim ar gyfer 2040 a tharged allyriadau 2050 y targedau uchaf y gellir eu cyflawni, a

b

os nad y targed uchaf y gellir ei gyflawni yw’r naill neu’r llall ohonynt, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

4

Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2040 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch⁠—

a

a yw targed allyriadau 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni,

b

os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

5

Caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2).

6

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad a dderbynnir ganddynt o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

7

Rhaid i Weinidogion Cymru osod ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cael yr adroddiad.