Rhagolygol

RHAN 3LL+CCODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopaLL+C

57Cymhwyso’r enillionLL+C

(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i’r enillion net o’r tâl gael eu cymhwyso at ddibenion elusennol sydd—

(a)yn ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd, a

(b)o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni (pa un a ydynt o fudd hefyd i unrhyw ardal arall ai peidio).

(2)Ond rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer eithriad sy’n galluogi gwerthwr nwyddau i gymhwyso’r enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol eraill pan fo’r gwerthwr—

(a)o fewn cyfnod penodedig cyn i’r ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ddod i rym am y tro cyntaf, wedi cymhwyso symiau a dderbyniwyd ar ffurf taliadau am fagiau siopa at y dibenion hynny, a

(b)wedi rhoi hysbysiad ei fod wedi cymhwyso symiau at y dibenion hynny fel y crybwyllir ym mharagraff (a) ac am ddymuniad y gwerthwr i allu cymhwyso’r holl enillion net o’r tâl, neu ran ohonynt, at y dibenion hynny.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch sut, pa bryd ac i bwy y mae’n rhaid rhoi hysbysiad;

(b)ynghylch gwybodaeth y mae’n rhaid ei darparu wrth roi hysbysiad;

(c)i’r eithriad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau.

(4)Caiff y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i werthwr nwyddau gymhwyso’r enillion net o’r tâl—

(a)at y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt, neu

(b)pan fo’r rheoliadau’n pennu un diben elusennol neu ragor, at y dibenion penodedig hynny neu at y rhai hynny o’u plith y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt.

(5)Caiff rheoliadau bagiau siopa (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu bod yr enillion net o’r tâl i’w trin fel petaent wedi eu cymhwyso yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon os cânt eu derbyn gan bersonau penodedig neu bersonau o ddisgrifiad penodedig (neu’r ddau);

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i’r enillion net o’r tâl gael eu rhoi gan werthwyr i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu i unrhyw berson arall;

(c)ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n derbyn unrhyw enillion net o’r tâl gymhwyso’r enillion at ddibenion elusennol yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) neu (2).

(6)Caiff y rheoliadau—

(a)darparu i Weinidogion Cymru adennill symiau sy’n gyfwerth â’r enillion o’r tâl a dderbyniwyd neu a gymhwyswyd heb fod yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon;

(b)darparu ar gyfer cymhwyso symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru at ddibenion elusennol o fewn is-adran (1) (gan gynnwys y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt);

(c)darparu nad yw symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru.

(7)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i bersonau ar wahân i werthwyr nwyddau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod darpariaeth o’r fath yn briodol er mwyn gorfodi darpariaeth a wneir o dan yr adran hon neu ar gyfer gwneud darpariaeth o’r fath yn effeithiol fel arall.

(8)Yn y Rhan hon, mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno); ond caiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu i’r diffiniad fod y gymwys at ddibenion y Rhan hon gyda’r addasiadau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn sicrhau bod yr enillion net o’r tâl yn cael eu cymhwyso’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)