RHAN 4LL+CCASGLU A GWAREDU GWASTRAFF

Gwaredu gwastraffLL+C

67Pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgiLL+C

Ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8), ar ôl adran 9 mewnosoder—

9ARheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraff

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;

(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;

(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.

(3)Yn yr adran hon—

  • mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);

  • mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;

  • ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—

    (a)

    llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a

    (b)

    unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(b)

I2A. 67 mewn grym ar 18.10.2023 gan O.S. 2023/1096, ergl. 2(b)