RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Dyletswyddau cyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus
I17Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth
1
Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd, yn eu barn hwy, o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.
2
Cyn cyhoeddi rhestr o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CNC”) ynghylch yr organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd i’w cynnwys ar y rhestr.
3
Heb ragfarnu adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a
b
annog eraill i gymryd camau o’r fath.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn ymgynghoriad ag CNC—
a
adolygu’n gyson unrhyw restr a gyhoeddir ganddynt o dan yr adran hon,
b
gwneud y diwygiadau hynny i unrhyw restr o’r fath y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, ac
c
cyhoeddi unrhyw restr a ddiwygir yn y fath fodd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei diwygio.
5
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.