(1)Ar unrhyw adeg pan fo ymholiad yn mynd rhagddo caniateir i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth ac ACC, ar y cyd, atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â chynnwys y ffurflen dreth at y tribiwnlys.
(2)Rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu ynghylch unrhyw gwestiwn a atgyfeirir iddo.
(3)Caniateir gwneud mwy nag un atgyfeiriad o dan yr adran hon mewn perthynas ag ymholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
Caiff ACC neu’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dynnu atgyfeiriad a wnaed o dan adran 46 yn ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Tra bo achos ynghylch atgyfeiriad o dan adran 46 yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymholiad—
(a)ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mewn perthynas â’r ymholiad (gweler adran 50), a
(b)ni chaniateir gwneud cais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau (gweler adran 51).
(2)Mae achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo—
(a)pan fo atgyfeiriad wedi ei wneud a heb ei dynnu’n ôl, a
(b)pan na fo dyfarniad terfynol wedi ei wneud ynghylch y cwestiwn a atgyfeiriwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Mae dyfarniad o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon i’r atgyfeiriad yn yr un ffordd, ac i’r un graddau, â phenderfyniad ar fater rhagarweiniol mewn apêl.
(2)Rhaid i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad—
(a)wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad, a
(b)wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r casgliadau hynny.
(3)Ni chaniateir ailedrych yn ystod apêl ar y cwestiwn y dyfarnwyd yn ei gylch, ac eithrio i’r graddau y gellid ailedrych arno os dyfarnwyd yn ei gylch fel mater rhagarweiniol mewn apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3