Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Gwneud asesiadau ACCLL+C

57Cyfeiriadau at y “trethdalwr”LL+C

Yn adrannau 58 i 61, ystyr “trethdalwr” yw—

(a)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 54, y person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno,

(b)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 55 [F1neu 55A], y person a grybwyllir yno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

58Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACCLL+C

(1)O ran asesiad ACC—

(a)caniateir ei wneud yn y [F2pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F3(2), (3) [F4, (3A) a (3B)]] yn unig, a

(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

(a)y trethdalwr,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

[F5(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]

[F6(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]

[F7(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]

(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F8yn yr achos cyntaf na’r ail achos]

(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F9mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

59Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACCLL+C

(1)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol [F10mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)] .

(2)Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F11, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(3)A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F12, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(4)Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.

[F13(4A)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.]

(5)Os yw’r trethdalwr wedi marw—

(a)rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a

(b)ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.

(6)Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) [F14, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,] yw—

    (za)

    [F15os na ddychwelwyd ffurflen dreth, y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth,]

    (a)

    os dychwelwyd [F16ffurflen dreth] ar ôl y dyddiad ffeilio, y diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu

    (b)

    fel arall, y dyddiad ffeilio;

  • [F17ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—

    (a)

    pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;

    (b)

    pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;

    (c)

    pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.]

  • ystyr “person cysylltiedig” (“related person”), mewn perthynas â’r trethdalwr, yw⁠—

    (a)

    person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

    (b)

    person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

60Sefyllfaoedd sydd wedi eu peri’n ddiofal neu’n fwriadolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.

(2)Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.

(3)Pan fo—

(a)gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,

(b)y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac

(c)y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,

mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.

(4)Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

61Y weithdrefn asesuLL+C

(1)Rhaid dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr am asesiad ACC.

(2)Rhaid talu’r swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad.

F18(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3