xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 7LL+C[F1RHYDDHAD] YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Cyfoethogi anghyfiawnLL+C

64[F2Gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn]LL+C

Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F3ryddhad] a wneir o dan adran 63 [F4neu 63A] pe byddai ad-dalu neu [F5ollwng y] swm yn cyfoethogi’r hawlydd yn annheg, neu i’r graddau y byddai’n gwneud hynny.

65Cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellachLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo swm a dalwyd ar ffurf treth ddatganoledig a fyddai (ar wahân i adran 64) i’w ad-dalu i unrhyw berson (“y trethdalwr”) neu [F6i’w ollwng], a

(b)pan fo holl gost neu ran o gost talu’r swm hwnnw i ACC wedi ei hysgwyddo, at ddibenion ymarferol, gan berson heblaw’r trethdalwr.

(2)Pan fo, mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr, neu y gallai colled neu niwed ddod i’w ran, o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed yn achos y trethdalwr am y ffordd y mae unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â threth ddatganoledig yn gweithredu, mae’r golled honno i’w diystyru neu’r niwed hwnnw i’w ddiystyru, ac eithrio i raddau’r swm sydd wedi ei feintioli, wrth wneud unrhyw ddyfarniad—

(a)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai ad-dalu swm i’r trethdalwr neu [F7ollwng y swm] yn cyfoethogi’r trethdalwr, neu

(b)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai unrhyw gyfoethogiad o ran y trethdalwr yn annheg.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y swm sydd wedi ei feintioli” yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn dangos ei fod y swm a fyddai’n digolledu’r trethdalwr yn briodol am golled neu niwed y dengys y trethdalwr iddo ddod i ran y trethdalwr yn sgil gwneud y rhagdybiaethau anghywir.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddarpariaethau sy’n ymwneud â threth ddatganoledig yn gyfeiriad at unrhyw ddarpariaethau—

(a)mewn unrhyw ddeddfiad neu [F8ddeddfwriaeth uniongyrchol [F9a gymathwyd]] (boed mewn grym o hyd ai peidio) sy’n berthnasol i’r dreth ddatganoledig neu i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â hi, neu

(b)mewn unrhyw hysbysiad a gyhoeddir gan ACC o dan neu at ddibenion unrhyw ddeddfiad o’r fath.

66Cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôlLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i drefniadau talu’n ôl a wneir gan unrhyw berson gael eu diystyru at ddibenion adran 64 ac eithrio pan fo’r trefniadau—

(a)yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi gan y rheoliadau, a

(b)wedi eu cefnogi gan unrhyw ymrwymiadau i gydymffurfio â darpariaethau’r trefniadau ag y bo’n ofynnol eu rhoi i ACC yn ôl y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau talu’n ôl” yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad o dan adran 63 [F10neu 63A]

(a)a wneir gan unrhyw berson at ddiben sicrhau na chaiff y person ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu neu [F11ollwng] unrhyw swm yn unol â’r hawliad, a

(b)sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau sydd at ddibenion ymarferol wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.

(3)Mae’r ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi drwy reoliadau o dan yr adran hon ar gyfer ei chynnwys mewn trefniadau talu’n ôl yn cynnwys yn benodol—

(a)darpariaeth sy’n gwneud taliad yn ôl o’r math a ddarperir ar ei gyfer yn y trefniadau yn ofynnol o fewn unrhyw gyfnod ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef a bennir yn y rheoliadau;

(b)darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau i ACC pan na fo’r symiau hynny yn cael eu talu’n ôl yn unol â’r trefniadau;

(c)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod llog a delir gan ACC ar unrhyw swm a ad-delir ganddo i’w drin yn yr un ffordd â’r swm hwnnw at ddibenion unrhyw ofyniad o dan y trefniadau i dalu personau yn ôl neu i ad-dalu ACC;

(d)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â dilyn y trefniadau a ddisgrifir yn y rheoliadau yn cael eu cadw a’u darparu i ACC.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau—

(a)i wneud yr ad-daliadau i ACC y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn unol ag unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau talu’n ôl yn rhinwedd is-adran (3)(b) neu (c);

(b)i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau o’r fath yn rhinwedd is-adran (3)(d).

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch ym mha ffurf a modd, a phryd, y mae ymrwymiadau i’w rhoi i ACC yn unol â’r rheoliadau a chaiff unrhyw ddarpariaeth o’r fath ganiatáu i ACC benderfynu ynghylch y materion hynny yn unol â’r rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch cosbau pan fo person yn torri rhwymedigaeth a osodir yn rhinwedd is-adran (4).

(7)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i gosb;

(b)ynghylch symiau cosbau;

(c)ar gyfer cosbau penodedig, cosbau dyddiol a chosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at symiau’r ad-daliadau y byddai’r person wedi bod yn agored i’w gwneud i ACC pe byddai’r rhwymedigaeth wedi ei thorri;

(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;

(e)ynghylch adolygiadau o gosbau neu apelau yn eu herbyn;

(f)ynghylch gorfodi cosbau.

(8)Ond ni chaiff y rheoliadau greu troseddau.

(9)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (6) ddiwygio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(10)Nid yw rheoliadau a wneir felly yn gymwys i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 66 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2