RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 3APELAU
I4I2178Gwneud apêl
1
Rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys.
2
Ond ni chaiff person wneud apêl i’r tribiwnlys os yw is-adran (3), (4) neu (5) yn gymwys.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os penderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a
b
os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.
4
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
pan fo’r person wedi rhoi hysbysiad am gais i ACC o dan adran 173 am adolygiad o’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a
b
pan nad yw’r cyfnod y mae’n rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad oddi fewn iddo o dan adran 176(5) wedi dod i ben hyd yma.
5
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a
b
pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).
6
Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.
I7I5179Terfyn amser ar gyfer gwneud apêl
1
Rhaid i apêl gael ei gwneud i’r tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod perthnasol.
2
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), y cyfnod perthnasol yw—
a
pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth yr apelai o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r apelai fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;
b
pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r apelai am y penderfyniad.
3
Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo ACC wedi adolygu’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r apelai o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad.
4
Pan fo’r apelai wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ond ei fod wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4), y cyfnod perthnasol yw—
a
y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl, neu
b
os yw’n hwyrach, y cyfnod perthnasol sy’n gymwys o dan is-adran (3).
I8I6180Gwneud apêl yn hwyr
1
Caniateir gwneud apêl i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod perthnasol os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd.
2
Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 179.
I1I3181Dyfarnu ar apêl
1
Os gwneir apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys yn unol ag adran 179 neu 180 (ac nad yw’n cael ei thynnu’n ôl), rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu’r apêl.
2
Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod y penderfyniad apeliadwy—
a
i’w gadarnhau,
b
i’w amrywio, neu
c
i’w ganslo.