Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

PENNOD 3LL+CAPELAU

178Gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys.

(2)Ond ni chaiff person wneud apêl i’r tribiwnlys os yw is-adran (3), (4) neu (5) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os penderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi rhoi hysbysiad am gais i ACC o dan adran 173 am adolygiad o’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)pan nad yw’r cyfnod y mae’n rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad oddi fewn iddo o dan adran 176(5) wedi dod i ben hyd yma.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).

(6)Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 178 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

179Terfyn amser ar gyfer gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid i apêl gael ei gwneud i’r tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), y cyfnod perthnasol yw—

(a)pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth yr apelai o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r apelai fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;

(b)pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r apelai am y penderfyniad.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo ACC wedi adolygu’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r apelai o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad.

(4)Pan fo’r apelai wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ond ei fod wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4), y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl, neu

(b)os yw’n hwyrach, y cyfnod perthnasol sy’n gymwys o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 179 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

180Gwneud apêl yn hwyrLL+C

(1)Caniateir gwneud apêl i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod perthnasol os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd.

(2)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 179.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 180 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

181Dyfarnu ar apêlLL+C

(1)Os gwneir apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys yn unol ag adran 179 neu 180 (ac nad yw’n cael ei thynnu’n ôl), rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu’r apêl.

(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod y penderfyniad apeliadwy—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 181 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)