RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Refeniw posibl a gollir
I1I2135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferol
1
Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—
a
anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu
b
methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,
yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig F3neu gredyd treth o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.
2
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—
a
swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F2...
b
swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, F1ac
c
swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.