RHAN 8LL+CADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 1LL+CRHAGARWEINIOL

Penderfyniadau apeliadwyLL+C

172Penderfyniadau apeliadwyLL+C

(1)Caiff person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—

(a)gofyn am adolygiad o’r penderfyniad (yn ddarostyngedig i is-adran (4)), a

(b)apelio yn erbyn y penderfyniad,

yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Rhan hon.

(2) Mae’r penderfyniadau a ganlyn gan ACC yn benderfyniadau apeliadwy—

(a)penderfyniad sy’n effeithio ar ba un a yw treth ddatganoledig i’w chodi ar berson;

(b)penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar berson;

(c)penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig;

(d)penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

(e)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath;

[F1(f)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 16 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);

(g)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);]

[F2(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F3(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F4(j)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F5(k)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F6(l)penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.]

[F7(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.]

(3)Ond nid yw’r penderfyniadau a ganlyn yn benderfyniadau apeliadwy—

(a)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad o dan adran 43 neu 74;

(b)penderfyniad i ddyroddi—

(i)hysbysiad trethdalwr, neu

(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo;

(c)penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn—

(i)hysbysiad trethdalwr, neu

(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo.

(4)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff person ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.

(5)Pan ganiateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, caniateir gofyn amdano neu ei wneud ar y seiliau a ganlyn yn unig—

(a)ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad;

(b)bod darpariaeth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro’r hysbysiad rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen;

(c)yn achos hysbysiad adnabod a ddyroddir o dan adran 92 neu hysbysiad cyswllt dyledwr a ddyroddir o dan adran 93, nad yw amod 4 o’r adran honno wedi ei fodloni.

(6)Yn achos penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, y person y mae’r penderfyniad yn gymwys iddo at ddibenion is-adran (1) yw’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)addasu’r adran hon er mwyn—

(i)ychwanegu penderfyniad at is-adran (2) neu (3);

(ii)amrywio’r disgrifiad o benderfyniad yn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

(iii)tynnu ymaith benderfyniad o’r naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

(b)diwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad apeliadwy.