(1)I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—
(a)Rhan 3;
(b)Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);
(c)Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));
(d)Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);
(e)Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);
(f)adrannau 190 a 191.
(2)Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).]
Diwygiadau Testunol
F1A. 187A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 66; O.S. 2018/34, ergl. 3