(1)Mae unigolyn sy’n datgelu gwybodaeth yn groes i adran 17(1) yn cyflawni trosedd.
(2)Mae’n amddiffyniad i unigolyn a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) brofi bod yr unigolyn yn credu’n rhesymol—
(a)bod adran 18 yn caniatáu datgelu’r wybodaeth, neu
(b)bod yr wybodaeth eisoes wedi ei darparu yn gyfreithlon i’r cyhoedd.
(3)Mae unigolyn sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—
(a)ar gollfarn ddiannod, i garchar am gyfnod nad yw’n [F1wy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)] neu i ddirwy (neu’r ddau);
(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).
(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar y gallu i fynd ar drywydd unrhyw rwymedi na chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thorri adran 17(1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 20(3)(a) wedi eu hamnewid (7.2.2023 am 12.00 p.m.) gan The Judicial Review and Courts Act 2022 (Magistrates’ Court Sentencing Powers) Regulations 2023 (O.S. 2023/149), rhlau. 1(2), 31(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 20 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2